
Ffocws dysgu
Dysga sut i ddatblygu dy allu i feithrin cywirdeb wrth siarad, ee defnyddio cenedl enwau.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- dau weithgaredd
Learning focus
Learn how to develop the ability to talk accurately, eg use noun genders.
This lesson includes:
- two activities
For an English version of this lesson, scroll below.

Deall cenedl enwau
Mae gan bob enw yn y Gymraeg genedl, hynny yw mae pob enw naill ai'n wrywaidd neu'n fenywaidd.
Os wyt ti'n cael trafferth adnabod os yw gair yn wrywaidd neu'n fenywaidd, cofia fod enw benywaidd (heblaw am eiriau sy'n dechrau gyda 'll' neu 'rh') yn treiglo'n feddal ar ôl y fannod. Y fannod yw:
- y
- yr
- 'r
Dydy enw gwrywaidd byth yn treiglo ar ôl y fannod.
Edrycha ar yr enghreifftiau yn y tabl. Wyt ti'n gallu gweld sut mae'r enwau benywaidd yn treiglo ar ôl y fannod, ond bod yr enwau gwrywaidd yn aros yr un fath?
| Enwau benywaidd | Enwau gwrywaidd | |
|---|---|---|
| coeden > y goeden | car > y car | |
| dynes > y ddynes | dyn > y dyn | |
| braich > y fraich | bachgen > y bachgen | |
| merch > y ferch | map > y map |
Terfyniadau enwau benywaidd
Wyddost ti dy fod yn gallu dyfalu cenedl enw weithiau trwy edrych ar derfyniad gair?
Er enghraifft, mae enw benywaidd yn aml iawn yn gorffen gydag '-ach'.
Edrycha ar y terfyniadau benywaidd eraill sydd yn y tabl.
| Terfyniad benywaidd | Enghraifft | |
|---|---|---|
| -ach | cyfrinach | |
| -aeth | tystiolaeth | |
| -as | cymwynas | |
| -eb | taleb | |
| -eg | dameg | |
| -ell | llinell | |
| -en | coeden | |
| -es | ysgrifenyddes | |
| -fa | derbynfa |
Terfyniadau enwau gwrywaidd
Mae gan rai enwau gwrywaidd derfyniadau amlwg hefyd.
| Terfyniad gwrywaidd | Enghraifft | |
|---|---|---|
| -adur | cyfrifiadur | |
| -deb | undeb | |
| -dod | undod | |
| -der | dewrder | |
| -had | boddhad | |
| -iad | dymuniad | |
| -iant | llwyddiant | |
| -rwydd | euogrwydd | |
| -yn | plentyn |
Cofia fod:
- eithriadau, ee bachgen, gwahaniaeth, gwasanaeth, hiraeth, pennaeth
- ambell enw yn wrywaidd ac yn fenywaidd, ee amrywiaeth, tudalen
- cenedl enwau'n gallu amrywio rhwng de Cymru a gogledd Cymru, ee cwch, cwpan, munud
Defnyddio geiriadur
Mae'r geiriadur yn gallu rhoi llawer o wybodaeth i ni am enw. Mae’n gallu dweud wrthyn ni beth yw cenedl yr enw, hynny yw os yw’n enw gwrywaidd neu'n enw benywaidd.
Mewn geiriadur Cymraeg, ee Y Termiadur Addysg:
- mae gair gwrywaidd yn cael ei ddynodi gydag ‘eg’ (sy'n sefyll am __e__nw __g__wrywaidd)
- mae gair benywaidd yn cael ei ddynodi gydag ‘eb’ (sy'n sefyll am __e__nw __b__enywaidd)
Mewn geiriadur dwyieithog Saesneg-Cymraeg / Cymraeg-Saesneg, ee Geiriadur yr Academi:
- mae enw gwrywaidd yn cael ei ddangos fel m (sy'n sefyll am y gair Saesneg '__m__asculine')
- mae enw benywaidd yn cael ei ddangos fel f (sy'n sefyll am y gair Saesneg '__f__eminine')

Gweithgaredd 1
Dyfala beth yw cenedl enw'r geiriau canlynol. Efallai bydd terfyniad rhai geiriau yn dy helpu.
Gwiria’r atebion drwy edrych mewn geiriadur Cymraeg ar-lein, er enghraifft Geiriadur yr Academi neu Y Termiadur Addysg.
Wnest ti ddyfalu yn gywir? Ceisia gofio cenedl y geiriau hyn at eto.
| Enw | Cenedl | |
|---|---|---|
| geiriadur | ||
| deiseb | ||
| anhawster | ||
| eglurhad | ||
| datblygiad | ||
| hapusrwydd | ||
| cymwynas | ||
| llythyr | ||
| llwy | ||
| campfa | ||
| amrywiaeth |

Gweithgaredd 2
Cywira’r gwallau sydd yn y paragraff isod. Mae 10 gwall i gyd.
Un diwrnod, cerddodd y fachgen tuag at y coedwig yn gyffrous iawn. Roedd e'n mynd i weld y gwrach oedd yn byw yno. Pan gyrhaeddodd y fwthyn, gwelodd ddwy gath yn gorwedd wrth y ddrws a llygoden fawr wrth eu hymyl. Dechreuodd grynu wrth glywed udo’r flaidd ac wrth weld y dynes yn y ffenestr. Rhedodd nerth ei draed yn ôl am y gar. Sgrialodd yn ôl i'w gartref gan redeg am ei ystafell. Neidiodd i'r wely a cheisiodd anghofio am ddigwyddiadau’r ddiwrnod.

Nodiadau i rieni
Ar ôl gorffen y wers, bydd disgyblion yn gallu:
- deall y gwahaniaeth rhwng enwau benywaidd a gwrywaidd
- deall y prif reolau a’r treigladau sy’n gysylltiedig â chenedl enwau

Understanding the gender of nouns
Every noun in the Welsh language has a gender, which means that every noun is either masculine or feminine.
If you find it difficult to know whether a word is masculine or feminine, remember that feminine nouns (apart from those beginning with ‘ll’ or ‘rh’) mutate softly after the definite article ('the'). The definite article has three forms in Welsh:
- y
- yr
- 'r
Masculine nouns never mutate after the definite article.
Look at the examples in the table. Can you see how the feminine nouns mutate after the definite article, but the masculine nouns stay the same?
| Feminine nouns | Masculine nouns | |
|---|---|---|
| coeden > y goeden (tree > the tree) | car > y car (car > the car) | |
| dynes > y ddynes (woman > the woman) | dyn > y dyn (man > the man) | |
| braich > y fraich (arm > the arm) | bachgen > y bachgen (boy > the boy) | |
| merch > y ferch (girl > the girl) | map > y map (map > the map) |
Endings of feminine nouns
Did you know that you can sometimes guess the gender of a noun by looking at the ending of the word?
For example, feminine nouns often end with '-ach'.
Look at the other feminine endings in the table.
| Feminine ending | Example | |
|---|---|---|
| -ach | cyfrinach (secret) | |
| -aeth | tystiolaeth (evidence) | |
| -as | cymwynas (favour) | |
| -eb | taleb (voucher) | |
| -eg | dameg (parable) | |
| -ell | llinell (line) | |
| -en | coeden (tree) | |
| -es | ysgrifenyddes (secretary) | |
| -fa | derbynfa (reception) |
Endings of masculine nouns
Some masculine nouns have obvious endings as well.
| Masculine ending | Example | |
|---|---|---|
| -adur | cyfrifiadur (computer) | |
| -deb | undeb (union) | |
| -dod | undod (unity) | |
| -der | dewrder (bravery) | |
| -had | boddhad (satisfaction) | |
| -iad | dymuniad (wish) | |
| -iant | llwyddiant (success) | |
| -rwydd | euogrwydd (guilt) | |
| -yn | plentyn (child) |
Remember:
- there are exceptions, eg bachgen (boy), gwahaniaeth (difference), gwasanaeth (service), hiraeth (longing), pennaeth (headteacher)
- some words are masculine and feminine, eg amrywiaeth (variety), tudalen (page)
- the gender of nouns can vary between north and south Wales, eg cwch (boat), cwpan (cup), munud (minute)
Using a dictionary
A dictionary can give us a lot of information about a noun. It can tell us the gender of a noun, for example whether it is a masculine or feminine noun.
In Welsh dictionaries, eg Y Termiadur Addysg:
- ‘eg’(which stands for enw gwrywaidd - masculine noun) is used to denote a masculine noun
- ‘eb’(which stands for enw benywaidd - feminine noun) is used to denote a feminine noun
In bilingual English-Welsh / Welsh-English dictionaries, eg Geiriadur yr Academi:
- m(which stands for the English word 'masculine') is used to denote a masculine noun
- f(which stands for the English word 'feminine') is used to denote a feminine noun

Activity 1
Guess the gender of the following nouns. Maybe the ending of some words will help you.
Check the answers by looking in an online Welsh dictionary, for example Y Termiadur Addysg or Geiriadur yr Academi.
Did you guess correctly? Try and remember the gender of these words for again.
| Noun | Gender | |
|---|---|---|
| geiriadur (dictionary) | ||
| deiseb (petition) | ||
| anhawster (difficulty) | ||
| eglurhad (explanation) | ||
| datblygiad (development) | ||
| hapusrwydd (happiness) | ||
| cymwynas (favour) | ||
| llythyr (letter) | ||
| llwy (spoon) | ||
| campfa (gymnasium) | ||
| amrywiaeth (variety) |

Activity 2
Correct the errors in the paragraph below. There are 10 mistakes in total.
Un diwrnod, cerddodd y fachgen tuag at y coedwig yn gyffrous iawn. Roedd e'n mynd i weld y gwrach oedd yn byw yno. Pan gyrhaeddodd y fwthyn, gwelodd ddwy gath yn gorwedd wrth y ddrws a llygoden fawr wrth eu hymyl. Dechreuodd grynu wrth glywed udo’r flaidd ac wrth weld y dynes yn y ffenestr. Rhedodd nerth ei draed yn ôl am y gar. Sgrialodd yn ôl i'w gartref gan redeg am ei ystafell. Neidiodd i'r wely a cheisiodd anghofio am ddigwyddiadau’r ddiwrnod.

Notes for parents
After completing the lesson, students will be able to:
- understand the difference between masculine and feminine nouns
- understand the main rules and mutations connected to noun genders

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
