
Cynnwys y wers hon
- Cyflwyniad i Bedair Cainc y Mabinogi
- Un fideo o chwedl gyntaf y Mabinogi, sef Pwyll Pendefig Dyfed
- Un gweithgaredd i gywiro gwallau gramadegol o fewn testun
- Dau weithgaredd i brofi dealltwriaeth o’r stori
Lesson content
- An introduction to the Four Branches of the Mabinogi
- One video of the first story in the Mabinogi, Pwyll Pendefig Dyfed
- One activity to correct grammatical errors within a text
- Two activities to test your understanding of the story

Pedair Cainc y Mabinogi
Mae Pedair Cainc y Mabinogi yn un o brif drysorau llenyddiaeth Gymraeg. Mae arbenigwyr yn credu bod y pedair cainc wedi cael eu hysgrifennu bron i fil o flynyddoedd yn ôl, ond hyd yn oed nawr mae’r cyfuniad o gymeriadau arwrol sydd ynddyn nhw, a’r bydoedd llawn hud a lledrith yn golygu eu bod nhw mor gyffrous ac mor fyw ag erioed.
Y cyfarwydd
Mae’r Mabinogi yn perthyn i draddodiad y cyfarwydd. Storïwr proffesiynol oedd y cyfarwydd - a’i waith oedd diddanu a pharatoi adloniant yn llysoedd y brenhinoedd yng Nghymru. Byddai’n perfformio’r chwedlau i’r brenhinoedd yn y llys. Roedd y cyfarwydd yn gallu cofio cannoedd o straeon, ond yn naturiol, roedd manylion y chwedlau yn newid yn aml gan fod y straeon yn cael eu trosglwyddo ar lafar o berson i berson, ac o genhedlaeth i genhedlaeth.
Beth, felly, sy’n gwneud Pedair Cainc y Mabinogi mor arbennig?
Wel, yn y lle cynta, maen nhw’n straeon gwych - yn llawn cyffro, tensiwn a dirgelwch. Mae’n debyg bod llawer o’r cymeriadau yn y straeon wedi bod yn dduwiau Celtaidd yn wreiddiol, felly mae’r straeon yn trafod themâu mawr, er enghraifft:
- bywyd
- marwolaeth
- chwedloniaeth

Fideo 1 / Video 1
Mae’r fideo yma’n adrodd chwedl Pwyll Pendefig Dyfed.
Pwyll Pendefig Dyfed

Gweithgaredd 1 / Activity 1
Ceisia ateb y cwestiynau yma. Mae’r wybodaeth yn y fideo, felly gwylia'r fideo eto os nad wyt ti’n siŵr o rai o’r atebion.
- Beth yw ystyr Pendefig?
- Beth oedd cosb Pwyll?
- Beth oedd enw’r ferch ar y ceffyl gwyn?
- Pwy oedd Rhiannon i fod i briodi?
- Beth wnaeth Pwyll a Rhiannon i Gwawl?
- Am sawl blwyddyn barodd cosb Rhiannon?
- Pwy welodd plentyn bach yn gorwedd tu allan i'r drws?
- Beth oedd yr enw a roddwyd ar y plentyn bach wedi iddo ddychwelyd at Pwyll a Rhiannon?
Clicia neu bwysa yma i weld yr atebion i'r cwestiynau uchod.

Gweithgaredd 2 / Activity 2
Darllena’r darnau canlynol. Mae tri gwall ym mhob darn.
Chwilia am y gwallau a chywira nhw.
- Gwelodd pwyll yn syth ei fod wedi gwneud camgymeriad. Roedd y dyn ar gefn y ceffyl yn iawn. Nid cwn Pwyll oedd wedi lladd y carw, ond y cŵn gwyn â'r clustiau coch. Aeth Pwyll ati ar unwaith i ymddiheiro.
- Bu’r ddau yn byw’n llawen yn nheyrnasoedd eu gilydd, a neb o holl bobl Annwn na Dyfed yn amau dim o gwbl. Gweithiodd Arawn yn caled a rheolodd yn doeth dros dir Dyfed, a bu Pwyll yn frenin da yn Annwn. Felly y bu am flwyddyn gyfan.
- Erbyn hyn, doedd dim byd yn bwysicach ym meddwl Pwyll na dod i wybod pwy oedd y ferch osgeiddig ar y geffyl gwyn, ac erbyn y trydydd diwrnod roedd wedi cael syniad. Doedd dim amdani ond mynd ar ei hôl ei hunan! Ac felly y bu. Pan ymddangosodd y ferch yn y wisg aur a’i hwyneb dan orchidd gwyn am y trydydd tro tra oedd Pwyll yn eistedd ar Orsedd Arberth, neidiodd ar gefn ei geffyl gorau a carlamu fel y gwynt ar ei hôl.
Clicia neu bwysa yma i weld a wnest ti ddod o hyd i’r gwallau.

Gweithgaredd 3 / Activity 3
Bwrdd stori
Wrth lunio bwrdd stori, mae’n rhaid crynhoi’r chwedl drwy dynnu llun a chrynhoi'r digwyddiadau mewn brawddeg.
Meddylia am y cwestiynau canlynol wrth i ti greu bwrdd stori:
- Sut mae’r chwedl yn dechrau?
- Beth yw prif ddigwyddiadau’r chwedl?
- Pwy yw cymeriadau’r chwedl a beth maen nhw’n gwneud?
- Beth yw canlyniadau’r gweithredoedd yma?
- Sut mae’r chwedl yn gorffen?
Cer ati i grynhoi’r chwedl i wyth bocs gan ysgrifennu prif ddigwyddiadau’r chwedl o dan bob llun.


Nodiadau i rieni
Ar ôl gorffen y wers, bydd disgyblion yn:
- gyfarwydd â chwedl Pwyll Pendefig Dyfed
- medru crynhoi’r stori ar lafar ac yn weledol
Notes for parents
After completing the lesson, students will be:
- familiar with the story of Pwyll Pendefig Dyfed
- able to summarise the story both verbally and visually

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
