
Ffocws dysgu
Dysga sut i ddefnyddio sgiliau rhif er mwyn canfod symiau ffracsiynol.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- un gweithgaredd
Learning focus
Learn how to use number skills in order to calculate fractional quantities.
This lesson includes:
- one video
- one activity

Fideo / Video
Mae rhedwr yn symleiddio ffracsiynau i gyfrifo pa mor bell y mae o'r llinell derfyn.
Sut i symleiddio ffracsiynau
Ti'n rhedeg 30 cilomedr? Ma hynna'n anhygoel!
Anoddach na'r disgwyl yn dyw e!
Paid poeni - mae gorsaf ddŵr ar ôl tri chilomedr.
Sef tair rhan o 30 o'r ffordd yno.
Gallwn symleiddio hwnna achos mae tri a 30 yn gallu cael eu rhannu gyda thri.
Os y'n ni'n rhannu'r rhifiadur a'r enwadur gyda thri gallwn weld y byddi di un rhan o ddeg o'r ffordd trwy'r ras.
Hei, twyllo yw hwnna!
Mae gorsaf ddŵr arall ar ôl 10 cilomedr.
Mae gan ddeg a 30 ffactor cyffredin o ddeg, ac os rhannwn ni'r ddau gyda deg rwyt ti draean o'r ffordd.
Mae hwnna'n bendant yn twyllo.
Ond mae'r orsaf ddŵr nesaf ar ôl 18 cilomedr.
Mae gan 18 a 30 ffactor cyffredin o chwech, a thrwy rannu'r ddau gyda chwech rwyt ti dair rhan o bump o'r ffordd trwy'r ras!
Nodiadau i rieni
- Er mwyn symleiddio ffracsiwn, rhaid i ni ffeindio rhif y gallwn rannu’r rhifiadur a'r enwadur. Rhaid dy fod yn medru rhannu’r rhifiadur a’r enwadur yma gyda’r un rhif.
- Gyda’r ffracsiwn 3/30, gallwn rannu’r rhifiadur a'r enwadur gyda 3.
- 3 wedi ei rannu gyda 3 yw 1. 30 wedi’i rannu gyda 3 yw 10. Felly ein ffracsiwn newydd yw 1/10.
- Gyda’r ffracsiwn 10/30, mae gan y rhifiadur a'r enwadur ffactor cyffredin, sef 10. Hynny yw, mae 10 yn mynd i mewn i 10 a 30. Felly, gallwn rannu 10 gyda 10 i gael 1. 30 wedi’i rannu gyda 10 yw 3. Ein ffracsiwn newydd yw ⅓.
- Gyda’r ffracsiwn o 18/30, mae gan y rhifiadur a’r enwadur ffactor cyffredin o 6. 18 wedi’i rannu gyda 6 yw 3. 30 wedi’i rannu gyda 6 yw 5. Felly, ⅗ bydd ein ffracsiwn newydd.
Notes for parents
To simplify a fraction, we need to be able to divide the numerator and denominator by the same number.
With the fraction 3/30, we can divide both these numbers by 3.
3 divided by 3 is 1. 30 divided by 3 is 10. So, our new fraction is 1/10.
With the fraction 10/30, we can divide both these numbers by 10. 10 divided by 10 is 1. 30 divided by 10 is 3. So, our new fraction is ⅓.
With the fraction 18/30, we can divide both these numbers by 6. 18 divided by 6 is 3 and 30 divided by 6 is 5. So, our new fraction is ⅗.


Symleiddio ffracsiynau
Gelli di symleiddio ffracsiwn os yw’n bosib rhannu’r rhifiadur (y rhif uwchben y llinell) a’r enwadur (y rhif o danodd) gyda’r un rhif.
Gelli symleiddio chwe deuddegfed yn un hanner, neu 1 dros 2, achos mae’n bosib rhannu’r ddau rif â 6.
Mae 6 yn mynd i mewn i 6 un waith ac i mewn i 12 ddwy waith.


Gweithgaredd / Activity
Symleiddia'r ffracsiynau
Simplify the fractions

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
