
Ffocws dysgu
Dysga sut i ddefnyddio sgiliau geometreg i adnabod llinell cymesuredd siapiau 2D.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- un gweithgaredd
Learning focus
Learn how to use geometry skills to identify a line of symmetry for 2D shapes.
This lessons includes:
- one video
- one activity

Fideo / Video
Cymesuredd adlewyrchiad a sut i adnabod cymesuredd mewn siapiau 2D.
Llinellau cymesuredd
Mae siâp 2D yn gymesur os wyt ti'n gallu tynnu llinell drwyddo a'i fod yn edrych yn union yr un peth ar y ddwy ochr.
Ni'n galw'r llinell yn llinell cymesuredd.
O, ac ma'r golwg yna'n awgrymu bod y sgwâr yn gwybod ambell i beth am gymesuredd.
Dewch i ni gael golwg.
Un. Yn fertigol lawr y canol.
Dau. Yn llorweddol ar draws y canol.
Tri. Croeslin o'r chwith i'r dde.
A phedwar. Croeslin o'r dde i'r chwith.
Hmm. Artistig iawn.
Dim ond un sydd gan driongl isosgeles.
Mae gan betryal ddau.
A chylchoedd. Ma rhain yn ddiddorol.
Mae gan gylchoedd linellau cymesuredd di-ddiwedd, cyn belled â dy fod yn mynd drwy'r canolbwynt mae'n gymesur bob tro.
Dewch i ni wneud rhai ar hap.
Mae nhw'n dweud bod pobl yn gweld cymesuredd yn beth deniadol.
Beth y'ch chi'n meddwl bois?
Nodiadau i rieni
- Ystyr y gair cymesuredd yw siâp 2D sy’n edrych yn union yr un fath ar y ddwy ochr ar ôl tynnu llinell trwy’r canol.
- Mae’r llinell yma yn cael eu galw’n llinell cymesuredd.
- Mae gan sgwâr 4 llinell cymesuredd.
- Mae gan driongl isosgeles 1 llinell cymesuredd.
- Mae gan betryal 2 linell cymesuredd.
- Mae gan gylch linellau cymesuredd di-ddiwedd. Dim ond bod y llinell yn mynd trwy ganol y cylch, mae’n gymesur bob tro.
Notes for parents
- *Symmetrical is when a 2D shape looks exactly the same on both sides after drawing a line through the middle of the shape (horizontally, vertically, diagonally). *
- *This line is called a line of symmetry. *
- *A square has 4 lines of symmetry. *
- *An isosceles triangle has 1 line of symmetry. *
- *A rectangle has 2 lines of symmetry. *
- A circle has endless lines of symmetry. As long as the lines go through the middle of the shape, it is symmetrical every time.


Cymesuredd
Mae siâp 2D yn gymesur os gallwn ni dynnu llinell drwyddo fel bod y naill ochr a’r llall i’r llinell yn edrych yn union yr un fath.
Enw’r llinell yma yw llinell cymesuredd.
Weithiau mae'n cael ei galw’n ‘llinell drych’ neu ‘cymesuredd drych’, achos petaet ti’n gosod drych ar y llinell, byddai’r adlewyrchiad yn dangos y siâp cyfan.
Mae gan driongl isosgeles 1 llinell cymesuredd.
Mae gan sgwâr 4 llinell cymesuredd.
Mae gan gylch linellau cymesuredd di-ben-draw!


Gweithgaredd / Activity
Rho nifer y llinellau cymesuredd ar yr arwyddion.
Put the number of lines of symmetry on the signs.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
