
Ffocws dysgu
Dysga adnabod onglau lem ac aflem.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- dau weithgaredd
Learning focus
Learn to recognise acute and obtuse angles.
This lesson includes:
- one video
- two activities

Fideo / Video
Mae’r siapiau yn trafod onglau wrth fwyta pitsa.
The shapes discuss angles while eating pizza.
Onglau
Mmmm, pitsa.
Reit, rhaid canolbwyntio. Heddiw ry'n ni'n edrych ar onglau.
Gwych, rwyt ti'n torri'r pitsa ar ongl sgwâr, sy'n golygu ongl o 90 gradd. Darn mawr blasus i'r sgwâr.
Beth nesaf? Rwyt ti'n torri'r un yna ar ongl aflem, sy'n golygu ongl rhwng 90 a 180 gradd. Ddim yn ddrwg!
Ac yn olaf rwyt ti'n mynd am ongl lem.
Ongl sy'n llai na 90 gradd.
Nodiadau i rieni
- Ongl sgwâr yw ongl sy’n mesur 90 gradd.
- Ongl aflem yw ongl sy’n mesur rhwng 90 gradd a 180 gradd.
- Ongl lem yw ongl sy’n mesur llai na 90 gradd.
Notes for parents
- A right angle measures 90 degrees.
- An obtuse angle measures between 90 degrees and 180 degrees.
- An acute angle measures less than 90 degrees.

Ongl sy’n mesur tro, a hynny mewn graddau neu °. Mae 360° mewn tro llawn.
Gelli di ganfod maint ongl trwy ddefnyddio onglydd.
- Ongl lem yw ongl sy'n llai na 90°.
- Ongl aflem yw ongl sydd rhwng 90° a 180°.
- Ongl atblyg yw ongl sy'n fwy na 180°.
- Ongl sgwâr yw ongl sy'n 90° yn union.

An angle is a measure of a turn, measured in degrees or °. There are 360° in a full turn.
You can find out the size of an angle using a protractor.
- An angle less than 90° is acute.
- An angle between 90° and 180° is obtuse.
- An angle greater than 180° is reflex.
- An angle of exactly 90° is a right-angle.

Gweithgaredd 1 / Activity 1
Labela’r onglau isod.
Label the angles.


Gweithgaredd 2 / Activity 2
Ysgrifenna enw’r ongl ar gyfer y mesuriadau isod.
Write the name of the angle next to the measurements below.
- 40°
- 95°
- 90°
- 100°

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
