
Cynnwys y wers hon
- Un fideo am ddatblygu syniadau mewn ffordd greadigol
- Cyflwyniad i dechneg creu map meddwl
- Un gweithgaredd cynllunio cyflwyniad
Lesson content
- One video on developing ideas creatively
- Introduction to mind mapping technique
- One activity planning a presentation

Fideo / *Video *
Mae’r fideo yma’n cyflwyno rhai technegau sy’n gwneud y broses o ddatblygu syniadau gwreiddiol yn un effeithiol a phleserus.

Mapiau meddwl
Un o’r syniadau yn y fideo yw map meddwl. Beth felly yw map meddwl?
Mae'r dechneg o greu mapiau meddwl yn ffordd dda o gofio ffeithiau wrth adolygu.
Mae mapiau meddwl hefyd yn ffordd effeithiol i dy helpu i feddwl yn greadigol. Felly os wyt ti’n ceisio creu poster neu ffeithlun trawiadol neu eisiau datblygu cymeriad ar gyfer stori, gall map meddwl fod yn dechneg dda i’w defnyddio.
Darlun o sawl darn o wybodaeth yw map meddwl, ac mae'r dechneg yn cysylltu gwahanol syniadau gyda'i gilydd. Trwy wneud cysylltiadau rhwng y syniadau hyn, mae modd creu syniadau newydd.

Enghraifft
Mae angen dilyn cyfres o gamau er mwyn creu map meddwl.
Dychmyga dy fod angen creu taflen i godi ymwybyddiaeth o lygredd dŵr yn dy ardal di. Gall dilyn y pump cam isod i lunio map meddwl dy helpu i ddod o hyd i syniad:
Cam un
Yng nghanol y dudalen, tynna lun neu ysgrifenna beth yw’r thema, er enghraifft, sut i godi ymwybyddiaeth o lygredd dŵr.
Cam dau
Tynna ychydig o linellau neu ‘ganghennau’ trwchus sy’n ymestyn o’r brif thema. Dylai'r llinellau hyn dy helpu i drefnu dy feddyliau.
Er enghraifft, gallai dy ganghennau gynnwys rhai o’r ffyrdd gwahanol o godi ymwybyddiaeth pobl at lygredd dŵr, ee posteri, taflenni gwybodaeth, cyflwyniadau, ymgyrchoedd a cherddi.
Cam tri
Ym mhen draw pob cangen drwchus, gwna ganghennau teneuach yn nodi beth bynnag sy’n dod i dy feddwl.
Er enghraifft, gallai canghennau teneuach oddi ar air fel ‘taflenni’ gynnwys syniadau o beth sydd angen bod ar daflen a ble i ddosbarthu’r taflenni. Gallet ddefnyddio delweddau a lluniau yn ogystal â geiriau yma.
Cam pedwar
Ar ôl nodi dy holl syniadau, edrycha ar dy fap meddwl unwaith eto. Oes unrhyw gysylltiadau rhwng y syniadau? A oes modd ychwanegu saethau i gysylltu gwahanol rannau o dy fap meddwl?
Cam pump
Beth sy’n sefyll allan? Pan fyddi di’n gallu ateb y cwestiwn hwn, byddi di'n gallu cynnig syniad ar gyfer pecyn codi ymwybyddiaeth.


Gweithgaredd / *Activity *
Llunia gyflwyniad ar gyfer disgyblion Blwyddyn 6 a fydd yn ymuno â dy ysgol ym mis Medi. Pa bethau pwysig sy’n rhaid iddyn nhw ei wybod?
Beth am lunio map meddwl i gasglu syniadau?
Pa beth y bydd angen i’r disgyblion Blwyddyn 6 ei wybod am dy ysgol di? Manyla ar dy fap meddwl gan weld os oes cysylltiadau rhwng dy syniadau.
Ar ôl casglu dy holl syniadau, rwyt yn barod i greu dy gyflwyniad. Wyt ti am greu poster, blog, gwefan neu bamffled? Cofia fod angen i dy wybodaeth fod yn ddefnyddiol, yn ymarferol ac yn eglur.
Dilyna’r pump cam uchod er mwyn creu map meddwl i drefnu dy syniadau. Mae enghraifft isod i dy helpu.


Nodiadau i rieni
Ar ôl gorffen y wers, bydd disgyblion yn gallu:
- deall beth yw map meddwl
- creu map meddwl effeithiol a defnyddiol
Notes for parents
After completing the lesson, students will be able to:
- understand what a mind map is
- create an effective and useful mind map

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
