
Ffocws dysgu
Dysga am wahanol gyfuniadau o arian i dalu am eitemau hyd at £1.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- dau weithgaredd
Learning focus
Learn about different combinations of money to pay for items up to £1.
This lesson includes:
- one video
- two activities

Wedi ei chreu mewn partneriaeth â Twinkl.
Fideo / Video
Gwylia'r fideo am ddarnau gwahanol arian a'u gwerth.
Watch the video about different coins and their value.
Sut i gyfrifo gwerth gyda darnau arian
ADRODDWR: Faint mae diod yn costio?
MERCH: Sa i’n gwybod… pedwar deg ceiniog? Ond does dim digon gyda fi.
ADRODDWR: Tyrd ymlaen – gweithia fo allan! Mae o gen ti.
MERCH: Hmmm…wel, ma dau ddarn ugain ceiniog gyda fi.
ADRODDWR: Oes…a dw i’n meddwl bod cyfuniad posib arall gen ti hefyd.
MERCH: O ie! Ma pedwar darn deg ceiniog gyda fi, ac wyth darn pump ceiniog – sef yr un peth nag yw e?
ADRODDWR: Yn union - maen nhw’r un gwerth. Rydyn ni'n gallu gwirio hyn drwy luosi – mae pedwar lluosi â deg yn gwneud pedwar deg, ac wyth lluosi â phump yn gwneud pedwar deg hefyd.
MERCH: Gwych! Mae digon o arian gyda fi am dair diod!
ADRODDWR: Ga’ i un 'ta?
MERCH: Hmmmm… gad fi feddwl amdano fe’n gyntaf…
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio’r fideo, bydd disgyblion yn:
- gyfarwydd â gwahanol ddarnau arian
- deall bod hi'n bosibl gwneud yr un gwerth gyda darnau arian gwahanol
- dod yn gyfarwydd â'r symbol lluosi
Notes for parents
After watching the video, pupils will:
- be familiar with different coins of money
- understand it is possible to make the same amount of money with different coins
- become familiar with the multiplication symbol

Arian
Mae llawer o wahanol ddarnau arian. Faint wyt ti'n gallu meddwl amdanynt?
- un geiniog
- dwy geiniog
- pum ceiniog
- deg ceiniog
- ugain ceiniog
- pum deg ceiniog
- punt
- dwy bunt
Mae'n bosibl gwneud yr un gwerth gyda gwahanol ddarnau arian.
Money
There are lots of different coins of money. How many can you think of?
- one pence
- two pence
- five pence
- ten pence
- twenty pence
- fifty pence
- one pound
- two pounds
We can make the same value with a different combination of coins.

Gweithgaredd 1 / Activity 1
Lawrlwytha'r daflen isod o wefan Twinkl i ddod yn gyfarwydd â'r darnau gwahanol o arian.Tynna luniau o'r ceiniogau sydd angen eu defnyddio er mwyn talu am eitemau o'r gwerthoedd isod.
Download the worksheet from the Twinkl website below and familiarise yourself with the different coins.Draw pictures of the coins that can be used to pay for items of the following values.
10 ceiniog / 10 pence
15 ceiniog / 15 pence
20 ceiniog / 20 pence

Gweithgaredd 2 / Activity 2
Lawrlwytha'r daflen waith isod o wefan Twinkl a llenwa'r blychau.
Download the worksheet from the Twinkl website below and fill in the blanks.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

