
Ffocws dysgu
Dysga am symbolau sy’n ymwneud â chynhwysedd.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- un gweithgaredd
Learning focus
Learn about symbols related to capacity.
This lesson includes:
- one video
- one activity
Wedi ei chreu mewn partneriaeth â Twinkl.

Fideo / Video
Gwylia'r fideo er mwyn dysgu am gynhwysedd a symbolau mathemategol.
Watch the video to learn about capacity and mathematical symbols.
Beth yw cynhwysedd?
CYFLWYNYDD Dyma Lenni a Martha – y biniau sbwriel!
YMENNYDD Wwwwwwwww!
LENNI Haia, wyt ti’n iawn?
CYFLWYNYDD Maen nhw’n mynd i egluro beth ydy cynhwysedd.
MARTHA Yip-iii.
CYFLWYNYDD Cynhwysedd ydy’r maint mae rhywbeth yn gallu ei ddal. Er enghraifft, mae Martha yn hanner llawn. Mae Lenni yn llai llawn na Martha, mae o’n wag.
LENNI Sori, sori – dim yn ddoniol.
CYFLWYNYDD Dyma’r symbol sy’n dangos bod Lenni yn llai llawn na Martha. Mae unrhyw beth, neu unrhyw rif sydd ar ochr bigog y saeth bob tro yn llai na beth sydd ar ochr agored y saeth.
LENNI Sori, ddylwn i ddim chwerthin – aaahh!
CYFLWYNYDD Dyma’r symbol sy’n dangos bod Lenni a Martha yn hafal i’w gilydd
MARTHA Ha!
LENNI Dwn i ddim pam dy fod ti’n chwerthin. Rydyn ni yn yr un sefyllfa.
MARTHA Ha!
LENNI O shwsh!
CYFLWYNYDD A dyma’r symbol i ddangos bod Lenni yn fwy llawn na Martha. Mae ochr agored y saeth wastad yn gorfod wynebu y peth neu’r rhif mwyaf. Mae Lenni yn llawn nawr.
LENNI Ugh – Beth ydy'r stwff ‘ma? Ond mae Martha mond yn hanner llawn. Ych a fi – mae’n afiach.
CYFLWYNYDD Mae Lenni yn wag eto.
LENNI Diolch byth, wir.
YMENNYDD Waaaaaaa!
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio’r fideo, bydd disgyblion yn:
- deall mai cynhwysedd yw'r cyfanswn mae rhywbeth yn ei ddal
- dod yn gyfarwydd â'r symbolau mathemategol am fwy na, llai na ac yn hafal i
- gallu ymarfer defnyddio'r symbolau mathemategol yn gywir yn eu hamser eu hunain
Notes for parents
After watching the video, pupils will:
- understand that capacity is the amount that something holds
- *become familiar with the mathematical symbols more than, less than and equal to *
- be able to practise using the mathematical symbols correctly in their own time

Gweithgaredd / Activity
Lawrlwytha'r daflen waith isod o wefan Twinkl. Wyt ti'n gallu amcangyfrif faint o ddŵr sydd ym ymhob jwg?
Download the worksheet from the Twinkl website. Can you estimate how much water is in each jug?

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

