Creu cerdd - Hyd llinellau

Part ofLearn & revise

Dysgu Gartref

Ffocws dysgu

Dysga am sillafau i sillafu geiriau â sawl sillaf.

Mae'r wers yn cynnwys:

  • tri gweithgaredd addas

Learning focus

Learn how to use your knowledge of syllables to spell polysyllabic words.

This lesson includes:

  • three suitable activities

For an English version of this lesson, scroll below.

Hyd llinellau

Mae hyd llinellau'n bwysig mewn cerddi.

Mae'r bardd yn gorfod cyfri sawl sillaf sydd ym mhob llinell er mwyn cadw at y patrwm hwnnw.

Wyt ti'n cofio beth yw sillaf?

Gair neu ran o air ydy sillaf. Er enghraifft:

Mae un sillaf yn y gair cerdd, dwy sillaf sydd yn y gair cerddi a thair sillaf yn y gair cerddoriaeth.

  • Help llaw – Cofia glapio'r sillafau i dy helpu!
Llinell / Line

Gweithgaredd 1

Dyweda a chlapia’r geiriau canlynol:

Môr - 1 sillaf

Cath - 1 sillaf

Mynydd - 2 sillaf

Cadair - 2 sillaf

Gwasanaeth - 3 sillaf

Awyren - 3 sillaf

Bythgofiadwy - 4 sillaf

Cyfrifiadur - 4 sillaf

Dyma Anni Llŷn yn dweud ac yn clapio'r geiriau yma.

Llinell / Line

Efallai ei bod o gymorth i ti feddwl am sillafau fel grisiau. Edrycha ar yr enghraifft yma ar gyfer y geiriau: môr, mynydd, gwasanaeth a bythgofiadwy.

Llinell / Line

Gweithgaredd 2

Dyma hwiangerdd sy'n gyfarwydd i ti. Darllena’r pennill a chofia gyfri'r sillafau sydd ym mhob llinell.

Dau gi bach yn mynd i'r coed,

Esgid newydd ar bob troed.

Dau gi bach yn dŵad adre'

Wedi colli un o'u 'sgidie.

Llinell / Line

Gweithgaredd 3

Gwranda ar y bardd Gwennan Evans yn darllen ei cherdd 'Un wennol ni wna wanwyn' ar wefan BBC Radio Cymru.Sylwa faint o sillafau sydd ym mhob llinell.

Line length

The length of lines is important in poems.

The poet must count how many syllables there are in every line in order to follow a pattern.

Do you remember what a syllable is?

A syllable is a word or part of a word. For example:

There is one syllable in the wordcerdd (poem), two syllables in the wordcerddi (poems)and three syllables in the wordcerddoriaeth (music).

  • Helping hand – Remember that clapping the syllables can help!
Llinell / Line

Activity 1

Say and clap the following words:

Môr (sea) - 1 syllable

Cath (cat) - 1 syllable

Mynydd (mountain) - 2 syllables

Cadair (chair) - 2 syllables

Gwasanaeth (service/assembly) - 3 syllables

Awyren (aeroplane) - 3 syllables

Bythgofiadwy (unforgettable) - 4 syllables

Cyfrifiadur (computer) - 4 syllables

Here's Anni Llŷn saying and clapping these words.

Llinell / Line

It may help to think of the syllables as stairs. Look at this example for the words:môr (sea), mynydd (mountain), gwasanaeth (assembly)andbythgofiadwy (unforgettable).

Llinell / Line

Activity 2

Here's a popular Welsh rhyme you may have heard. Read the verse and remember to count the number of syllables in each line.

Dau gi bach yn mynd i'r coed,

Esgid newydd ar bob troed.

Dau gi bach yn dŵad adre'

Wedi colli un o'u 'sgidie.

Two little dogs going to the woods,

A new shoe on every foot.

Two little dogs coming home,

Having lost one of their shoes.

Llinell / Line

Activity 3

Listen to the poet Gwennan Evans reading her poem 'Un wennol ni wna wanwyn' (One swallow does not make spring) on the BBC Radio Cymru website. Note how many syllables are in each line.

Hafan BBC Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan BBC Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU