
Ffocws dysgu
Dysga sut i ddefnyddio sgiliau geometreg er mwyn adnabod a defnyddio enwau siapiau 2D a 3D.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- un gweithgaredd
Learning focus
Learn how to use geometry skills to recognise and use the names of 2D and 3D shapes.
This lesson includes:
- one video
- one activity

Fideo / Video
Cyflwyno siapiau 3D a'r berthynas rhwng siapiau 3D a siapiau 2D.
Beth yw siapiau 3D?
Ma siapau 2D yn ddiflas!
Ddim go iawn ond ges i'ch sylw chi yn do.
Mae gan siapau 3D dri dimensiwn - hyd, lled a dyfnder.
Beth fydde fersiwn 3D o sgwâr? Ciwb.
Mae gan giwb chwe wyneb sgwâr sydd i gyd o'r un maint.
Mae ciwboid, fel ciwb wedi cael ei ymestyn.
Gyda dau wyneb sgwâr a phedwar wyneb petryal.
Ie …iawn. Dyna ddigon … diolch!
Beth am drionglau?
Mae trionglau'n troi'n byramidiau.
Rwyt ti nawr yn byramid sylfaen sgwâr, gyda phedwar wyneb trionglog a wyneb sgwâr ar gyfer dy ben-ôl.
Galli gael pyramidiau gyda gwahanol waelod.
Trionglau, pentagonau, hecsagonau… unrhyw siâp.
Ac mae cylch yn troi'n sffêr gydag un wyneb mawr crwn, fel pêl.
Yn beffaith ar gyfer, ym, rolio!
Ergyd wych! Ym, chi'n iawn…?
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gwybod y canlynol.
- Mae gan siapiau 3D tri dimensiwn - hyd, lled a dyfnder.
- Mae sgwâr yn troi’n giwb ac mae gan giwb 6 wyneb sgwâr. Mae ciwb wedi ymestyn yn gwneud ciwboid. Mae ganddo 2 wyneb sgwâr a 4 wyneb petryal.
- Mae triongl yn troi’n byramid. Mae gan byramid sylfaen sgwâr 4 wyneb trionglog a 1 wyneb sgwâr. Gellir cael pyramidau gyda gwahanol sylfaen hefyd.
- Mae cylch yn troi’n sffêr. Mae ganddo un wyneb crwn.
Notes for parents
After watching the video, students will know the following.
- 3D shapes have 3 dimensions - length, width and depth.
- A square turns into a cube and a cube has 6 square faces. A stretched cube is called a cuboid, it has 2 square faces and 4 rectangular faces.
- A triangle turns into a pyramid. A square based pyramid has 4 triangular faces and 1 square face. Pyramids can have bases of different shapes.
- A circle turns into a sphere. It has one round face.

Gweithgaredd / Activity
Enwa’r siapiau 3D.
Name the 3D shapes.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
