
Ffocws dysgu
Dysga sut i ail-ddweud digwyddiadau o ddarn o naratif yn y drefn gywir.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- tri gweithgaredd
Learning focus
Learn how to retell events from a narrative in the right order.
This lesson includes:
- one video
- three activities
For an English version of this lesson, scroll below.

Fideo
Jac a'r Goeden Ffa
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
- dysgu stori newydd ar goedd
- datblygu’r iaith Gymraeg mewn ffordd hwylus
- dysgu iaith stori syml
- defnyddio symudiadau er mwyn cofio trefn y stori
- mwynhau adrodd stori yn hyderus

Gweithgaredd 1
Pa mor dda wyt ti'n cofio stori Jac a'r Goeden Ffa? Ceisia adrodd y stori yn y drefn gywir i dy deulu di gan ddefnyddio'r symudiadau yn y fideo.

Gweithgaredd 2
Gwna lun o stori Jac a'r Goeden Ffa ar ffurf cartŵn - felly cyfres o luniau bach yn dangos beth sy'n digwydd yn y stori. Cofia roi rhif yn erbyn pob llun i nodi trefn y stori.

Gweithgaredd 3
Beth yw dy hoff stori? Beth am adrodd dy hoff stori i dy deulu di neu hyd yn oed i dy deganau di? Cofia sicrhau bod y stori yn y drefn gywir.

Video
Jac a'r Goeden Ffa
Notes for parents
After watching the video, students will be able to:
- learn to tell a new story aloud
- develop their Welsh language skills in an enjoyable way
- learn the language needed to tell a simple story
- use movements to remember the order of the story
- enjoy telling a story confidently

Activity 1
How well can you remember the story of Jac a'r Goeden Ffa (Jack and the Beanstalk)? Try and tell the story in the correct order to your family using the movements used in the video.

Activity 2
Draw the story of Jac a'r Goeden Ffa as a cartoon - in other words, a series of little pictures showing what happens in the story. Remember to label each drawing with a number to show the order of the story.

Activity 3
What's your favourite story? How about telling your story aloud to your family, or even to your toys? Remember to make sure that the story is in the correct order.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
