
Cynnwys y wers hon
- Un cyflwyniad i arddull teithlyfrau ac ysgrifennu am fynd ar daith
- Dau weithgaredd i ddeall rhagor am arddull ysgrifennu teithlyfrau
Lesson content
- One introduction to the style of travel writing
- Two activities to learn more about the language and style of travel writing

Beth yw teithlyfr?
Teithlyfr yw cofnod o brofiadau awdur yn teithio i wahanol lefydd o gwmpas y wlad neu hyd yn oed o gwmpas y byd.
Mae teithlyfrau yn cael eu hysgrifennu ar gyfer ymwelwyr, neu maen nhw'n gallu adrodd hanes personol o daith.
Mae ysgrifennu am deithiau yn gallu ymddangos mewn sawl ffurf, ee:
- erthyglau papur newydd
- traethodau
- blogiau
- llyfrau

Iaith ac arddull teithlyfr
Bydd teithlyfr yn:
- disgrifio lle
- addysgu am fywyd a diwylliant pobl eraill
- yn perswadio'r darllenydd i ymweld â lle
- cynghori'r darllenydd beth i'w wneud mewn lle dieithr trwy sôn am brofiadau personol
- diddanu'r darllenydd gydag arddull ysgrifennu creadigol, drwy adolygu neu ddisgrifio profiadau'r awdur mewn gwledydd neu leoedd penodol
Fel arfer mae teithlyfrau yn cael eu hysgrifennu:
- yn y trydydd person unigol neu luosog (fe, hi, nhw, ei, eu) wrth gyfeirio at le, ee Roedd Cymru yn hynod o brydferth, gyda’i thraethau hir a’i golygfeydd hi’n odidog.
- yn y person cyntaf unigol (fi, fy) os yw rhywun yn teithio ar ei ben ei hun ac yn sôn am brofiadau personol ar daith
- yn y person cyntaf lluosog (ni, ein) os yw rhywun yn teithio gyda phobl eraill
Mae arddull teithlyfr hefyd yn gallu cynnwys:
- berfau byrlymus
- ffeithiau a ffigurau
- ansoddeiriau cyffrous
- iaith anffurfiol
- cymariaethau/personoli pan mae'n addas
Weithiau, mae rhai awduron yn defnyddio hiwmor i ddiddanu'r darllenydd hefyd.
Dyma enghraifft o iaith ac arddull nodweddiadol sy'n cael eu defnyddio mewn teithlyfrau.
Ein bwriad y prynhawn crasboeth hwnnw oedd ymweld â chastell Caerdydd, sy'n sefyll yn smart ac yn gadarn yng nghanol y ddinas. Diolch i drefnwyr y daith cawsom gyfle i weld y bêl rygbi enfawr oedd yn rhan o’r castell i nodi cystadleuaeth Cwpan y Byd. Er mawr siom i ni, doedd y castell ddim ar agor, felly ymlwybron ni draw at Stadiwm y Mileniwm a rhyfeddu ar ei hadlewyrchiad prydferth ar yr afon Taf. Wedi cerdded yn hamddenol ar hyd ochr y stadiwm cawsom ein stopio’n stond gan ddynion egnïol a brwdfrydig yn gwerthu crysau a hetiau coch gyda ‘Wales Cymru’ mewn ysgrifen fras drostynt.
Mae'r awdur:
- wedi ysgrifennu yn y person cyntaf lluosog, sy'n dangos bod yr awdur wedi teithio gyda phobl eraill, ee Ein bwriad, cawsom ein stopio, Er mawr siom i ni
- yn ysgrifennu'n ddisgrifiadol, ee castell Caerdydd, sy'n sefyll yn smart ac yn gadarn yng nghanol y ddinas, ei hadlewyrchiad prydferth
- yn defnyddio berfau byrlymus, ee ymlwybron ni, rhyfeddu
- yn defnyddio ansoddeiriau, ee cyffrous, crasboeth, cadarn, enfawr, prydferth, egnïol, brwdfrydig
- yn defnyddio iaith anffurfiol, ee 'doedd… ddim' yn lle 'nid oedd', smart

Gweithgaredd 1 / Activity 1
Darllena'r pwt isod o deithlyfr o'r enw Jambo Caribŵ gan Rocet Arwel Jones.
Un peth ydy gwneud cynlluniau - peth cwbl wahanol ydy cadw atyn nhw.
Ar ôl bod wrthi mor ofalus ddoe yn torri llwybrau newydd a chyn ymgynefino efo nhw, dyma fi heddiw yn ddigon gwirion â derbyn cyngor y ferch wrth y ddesg yn y gwesty ynglŷn â sut i gyrraedd y bws. Codi am chwech, pacio'r ddau sach a stryffaglu efo'r naill ar 'y nghefn a'r llall yn fy llaw i lawr y grisiau cul i dalu. Y ferch yn holi lle ro'n i'n mynd a finna'n dweud 'mod i'n dal y bws i Malindi o'r fan a'r fan.
"Tro i'r chwith ac i lawr y ffordd am ryw hanner milltir a thro i'r dde a byddi di yno."
"O'n i'n meddwl mai i'r dde ro'n i angen mynd ar ôl mynd trwy'r drws yn fan 'ma?"
"Na, na - i'r chwith, a byddi di yno cyn i ti droi."
Ac oeddwn, roeddwn i yno - ond bod yr 'yno' hwnnw yn 'yno' gwahanol i'r un r'on i isio. Oedd, roedd yno res o fysus ond bod pob un ohonyn nhw yn mynd i gyfeiriad Nairobi a finna angen mynd am Malindi.
Noda'r iaith a'r arddull sy'n cael eu defnyddio yn y darn uchod.

Gweithgaredd 2 / Activity 2
Dychmyga dy fod am annog pobl i ymweld â dy dref neu dy bentref.
Disgrifia'r profiad o gerdded trwy’r ardal.
- Bydd angen meddwl am yr iaith ac arddull sydd eu hangen wrth ysgrifennu teithlyfr, ee person cyntaf unigol, berfau byrlymus, ansoddeiriau cyffrous, iaith anffurfiol, hiwmor.
- Cofia ddisgrifio a nodi’r pethau hyfryd/diddorol am yr ardal, a chynnwys ffeithiau.
- Noda hefyd brofiadau personol, ee yr ysgol rwyt ti'n ei mynychu, neu ardal chwarae lle fuost ti'n chwarae pan oeddet yn iau.
- Gelli di ddefnyddio iaith anffurfiol yn dy deithlyfr.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
