
Ffocws dysgu
Dysga ddefnyddio sgiliau rhif i ddosrannu er mwyn dyblu a haneru rhifau 2 ddigid.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo yn egluro sut i ddosrannu rhifau
- dau weithgaredd i brofi dy hun ar sut i ddosrannu rhifau
Learning focus
Learn to use partitioning to double and halve 2-digit numbers.
This lesson includes:
- one video explaining how to partition numbers
- two activities to test yourself on partitioning numbers

Fideo / Video
Sut i rannu rhifau er mwyn hwyluso mathemateg y pen.
How to divide numbers to make mental maths easier.
Sut i ddosrannu rhifau
Mae dosrannu yn ffordd ddefnyddiol o rannu rhifau mawr mewn i rifau llai i'w gwneud yn haws i'w trin.
Ond dyw e ffrindie?
Cymra'r rhif 23 - beth allwn ni wneud?
Na, dim dawnsio - ei ddosrannu!
Gallwch feddwl am 23 fel un 20 mawr a thri bach.
Neu beth am rannu hwnna ffordd arall.
Mewn i ddeg ac 13.
Gyda'i gilydd mae nhw'n gwneud 23 eto.
Gallwn dorri rhifau hyd yn oed yn fwy, fel 746.
Gwyliwch eich hun!
A drychwch be sy da ni: un 700 mawr, un 40 ac un chwech, 746!
Mae dosrannu rhifau yn golygu bo chi'n gallu rhannu rhifau, mewn i unedau, degau a hyd yn oed cannoedd pan y'ch chi'n adio neu'n tynnu rhifau neu'n gwneud problemau mathemategol eraill.
O o! Amser i ddiflanu!
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio'r fideo, dylai'r disgyblion wybod:
- bod dosrannu'n ffordd ddefnyddiol o rannu rhifau mawr i mewn i rifau llai
- bod dosrannu rhifau yn golygu eich bod chi'n gallu rhannu rhifau, ee i mewn i unedau, i ddegau neu hyd yn oed i gannoedd
- bod dosrannu rhifau yn gallu bod yn ddefnyddiol wrth adio a thynnu rhifau
Notes for parents
After watching the video, students should know:
- that partitioning is a useful way of breaking numbers up so they are easier to work with
- that you can partition numbers into units, tens or even hundreds
- that partitioning can be useful when adding and subtracting numbers


Dosrannu / Partitioning
Mae dosrannu’n ffordd ddefnyddiol o dorri rhifau’n ddarnau i’w gwneud yn haws gweithio gyda nhw.
Gelli di dorri’r rhif 746 yn gannoedd, degau ac unedau. 7 cant, 4 deg a 6 uned.
Gelli di dorri’r rhif 23 yn 2 ddeg a 3 uned, neu’n 10 ac 13.
Sut bynnag rwyt ti'n torri'r rhif yn ddarnau, bydd yn gwneud mathemateg yn haws!

Partitioningis a useful way of breaking numbers up into pieces to make them easier to work with.
You can break up the number 746 into hundreds, tens and units. 7 hundreds, 4 tens and 6 units.
You can break up the number 23 into 2 tens and 3 units, or 10 and 13.
However you break up the number, you'll be making the maths easier!

Gweithgaredd 1 / Activity 1
Profa dy hun nawr! Wyt ti'n gallu ad-drefnu’r symiau i gyfateb i’r rhifau?
Test yourself now! Can you re-arrange the sums to match the numbers?

Gweithgaredd 2 / Activity 2
Ceisia ad-drefnu’r symiau i gyfateb i’r rhifau.
Try to re-arrange the sums to match the numbers.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
