
Ffocws dysgu
Dysga adnabod sut mae testunau’n newid pan fyddant yn cael eu haddasu ar gyfer gwahanol gyfryngau a chynulleidfaoedd.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- dau weithgaredd
Learning focus
Learn how to identify how texts change when they are adapted for different media and audiences.
This lesson includes:
- two activities
For an English version of this lesson, scroll below.


Iaith llythyr personol
Mae llythyr personol yn wahanol i lythyr ffurfiol.
Yn aml, rwyt ti’n adnabod y bobl rwyt ti’n ysgrifennu llythyr personol atyn nhw'n dda.
Felly, wrth i ti sôn amdanat ti dy hun mewn llythyr, defnyddia'r ffurfiau anffurfiol hyn:
- dw i…
- rwy'n…
- wy'n…
Pan wyt ti'n cyfeirio at y person fydd yn derbyn dy lythyr, defnyddia:
- rwyt ti… (os wyt ti'n adnabod y person yn arbennig o dda)
- rydych chi… (os dwyt ti ddim yn adnabod y person cystal, neu os wyt ti am ddangos parch)

Iaith fywiog
Mae defnyddio iaith fywiog yn bwysig er mwyn cadw hwyl y llythyr. Mae hyn yn helpu i gadw sylw'r darllenydd i ddal ymlaen i ddarllen y llythyr hyd y diwedd.

Mae'n bosibl defnyddio:
berfau (geiriau sy'n dangos bod person yn gwneud rhywbeth, ee rhedeg, dringo)
adferfau diddorol (adferf yw gair sy’n disgrifio berf)
Enghraifft: berf
Dyma enghreifftiau o'r ferf yn cael ei defnyddio mewn brawddegau:
- Chwerthais yn groch nes bod dagrau yn tasgu i lawr fy mochau!
- Cysgais yn dawel y noson honno gyda fy nghydwybod yn glir! Diolch byth!
Enghraifft: adferf
Dyma enghreifftiau o adferfau yn cael eu defnyddio yn yr un brawddegau:
- Chwerthais yn groch nes bod dagrau yn tasgu i lawr fy mochau!
- Cysgais yn dawel y noson honno gyda fy nghydwybod yn glir! Diolch byth!

Cymariaethau
Mae'n bosibl defnyddio cymariaethau hefyd er mwyn creu darluniau byw.
Cymhariaeth yw dweud bod rhywbeth fel rhywbeth arall. Er enghraifft:

- Rhedais fel y gwynt rhag ofn i'r ci fy mrathu! Dw i byth yn mynd i geisio dwyn afalau o ardd Mrs Afallon byth eto!


- Gwenais fel giât ar y beirniad - ond ni wnaeth iot o wahaniaeth!


- Ro'n i'n crynu fel deilen wrth ganu ar y llwyfan. Bydd rhaid i fi gofio'r geiriau tro nesaf!

Iaith naturiol
Mae defnyddio iaith naturiol yn bwysig ac yn cyfleu agosatrwydd at y person sy'n darllen y llythyr. Er enghraifft:
- ta beth
- wedi'r cyfan
- gyda llaw
- o, ie, wel
- cer m'lan
- ry'n ni'n…
- dw i ddim…
Tafodiaith
Mae defnyddio tafodiaith, sef geiriau sy'n perthyn i ardal arbennig, yn dderbyniol mewn llythyr personol.

Cwestiynau
Ambell waith, mae gofyn cwestiynau yr wyt ti am gael atebion iddyn nhw'n bwysig. Efallai dy fod yn dyheu am gael gwybod hanes trip ysgol neu wyliau arbennig!
Er enghraifft gallet ti ofyn y cwestiynau canlynol mewn llythyr:
- Sut a'th y trip sgio?
- Gwympest ti?
- Siwr o fod!!
- Beth am fynd i'r 'Steddfod?
- Mae Manon yn cystadlu mewn cystadleuaeth dawnsio disgo am ddeg yn y bore! Wyt ti ar gael?


Ebychiad
Mae defnyddio ebychnod, sef '!', yn ffordd o bwysleisio ffaith, digwyddiad arbennig neu rywbeth doniol. Er enghraifft:
- Dyna beth oedd hwyl! Byth eto cofia!
- Wel! Wel! Siomedig iawn! Roeddwn i wedi disgwyl i ti gysylltu â fi oes oesoedd yn ôl!
- Syrthiodd Elin druan allan o'r gwely ar ein gwyliau! Mae hi'n hollol iawn - ond mi achosodd embaras iddi!


Cromfachau
Mae modd i ti ychwanegu sylwadau mewn cromfachau. Er enghraifft:
- Rwy wedi anghofio fy ngwisg nofio eto (ces i stŵr cofia!)
- Dw i wedi colli £5 (paid â dweud wrth Mam - plîs!)
- Mae Martha wedi torri’r ffôn newydd (beth ar wyneb daear o'dd hi'n meddwl o'dd hi'n 'neud, dw i ddim yn g'wbod!)


Gweithgaredd 1
Darllena’r llythyr personol hwn. Mae'r llythyr wedi ei ysgrifennu mewn iaith anffurfiol. Mae iaith anffurfiol fel iaith lafar, sef y ffordd rydym ni'n siarad gyda ein ffrindiau a'n teulu.
Pa eiriau wyt ti’n meddwl sy'n perthyn i'r iaith anffurfiol yn y llythyr personol yma? Gwna restr o'r geiriau anffurfiol.

Haia Beds,
Sdim lot o amser ’da fi i sgwennu hwn achos dw i ar y ffordd allan i fynd i’r practis pêl-droed. Dw i jest moyn holi - fyddet ti ffansi dod lan i aros gyda fi rhywbryd dros y gwylie? Ma’ Mam yn dweud galli di ddod ’ma unrhyw bryd ti moyn a bydde hi’n grêt dy weld di.
Gallen ni fynd am wac lan y mynydd tu ôl i’r tŷ, chware pêl-droed yn yr ardd neu fynd mas i bysgota ar y môr gyda Dad. Neu jest 'chillio' adre fan hyn, wrth gwrs. Hei, wyt ti’n ffan o ffilmie Star Wars? Dw i’n dwlu arnyn nhw! Ma’r 'box set' 'da fi fan hyn felly gallen ni wotsho rheiny trwy’r dydd!
Ta beth, rho wbod be’ ti’n feddwl. Cym on, dere i aros! Dw i wir ddim moyn treulio’r holl wylie gyda jest Catrin fy chwâr fach i. Bydde hynny’n ofnadw o ddiflas!
Reit, bant â fi. Wela’ i di cyn bo’ hir, gobeithio. Plîs, plîs, plîs!
Hwyl am nawr ’te,


Gweithgaredd 2
Beth am ysgrifennu llythyr personol i ffrind rwyt ti heb ei weld/ei gweld, ers rhai wythnosau? Rho wybod sut wyt ti a beth rwyt ti wedi bod yn gwneud dros y mis diwethaf.


Language in a personal letter
A personal letter is different to a formal letter.
You usually know the people you’re writing personal letters for well.
So, when talking about yourself in a letter, use informal forms like these:
- dw i… (I…)
- rwy'n… (I’m…)
- wy'n… (I’m…)
When referring to the person receiving your letter, use:
- rwyt ti… (you’re…) - if you know the person very well
- rydych chi… (you’re (plural)…) - if you're not as close to the person, or if you want to show respect

Interesting language
Using interesting language is important in order to keep the reader’s attention and to make sure they continue reading the letter to the end.

You can use:
Example: verb
- verbs (words showing that a person is doing something, eg, running, climbing)
- interesting adverbs (an adverb is a word that describes a verb)
Here are examples of verbs being used in sentences:
- Chwerthais yn groch nes bod dagrau yn tasgu i lawr fy mochau! (I laughed uproariously until tears were rolling down my cheeks!)
- Cysgais yn dawel y noson honno gyda fy nghydwybod yn glir! Diolch byth! (I slept soundly that night with a clear conscience! Thank heavens!)
Example: adverb
Here are examples of adverbs being used in the same sentences:
- Chwerthais yn groch nes bod dagrau yn tasgu i lawr fy mochau! (I laughed uproariously until tears were rolling down my cheeks!)
- Cysgais yn dawel y noson honno gyda fy nghydwybod yn glir! Diolch byth! (I slept soundly that night with a clear conscience! Thank heavens!)

Similes/comparisons
You can also use similes or comparisons to create vivid images.
A simile says that something is like something else. For example:

- Rhedais fel y gwynt rhag ofn i'r ci fy mrathu! Dw i byth yn mynd i geisio dwyn afalau o ardd Mrs Afallon byth eto!
I ran like the wind in case the dog bit me! I’m never going to try stealing apples from Mrs Afallon’s garden ever again!


- Gwenais fel giât ar y beirniad - ond ni wnaeth iot o wahaniaeth!
I smiled like a Cheshire cat at the judges - but it didn't make much difference! (literally: I smiled like a gate…)


- Ro'n i'n crynu fel deilen wrth ganu ar y llwyfan. Bydd rhaid i fi gofio'r geiriau tro nesaf!
I was shaking like a leaf when singing on the stage. I’ll have to remember the words next time!

Natural language
Using natural language is important and it creates a sense of closeness to the person reading the letter. For example:
- ta beth (anyway)
- wedi'r cyfan (after all)
- gyda llaw (by the way)
- o, ie, wel (oh, yes, well)
- cer m'lan (go on)
- ry'n ni'n… (we're…)
- dw i ddim… (I’m not…)
Dialect
Using dialect (everyday words that are used in a specific area, and vary from place to place) is acceptable in personal letters.

Questions
Sometimes, it’s important to ask questions you want the answers to. You may want to know what happened on a school trip or a special holiday!
For example, you could ask the following questions in a letter:
- Sut a'th y trip sgio? (How did the skiing trip go?)
- Gwympest ti? (Did you fall?)
- Siwr o fod!! (Probably!!)
- Beth am fynd i'r 'Steddfod? (How about we go to the Eisteddfod?)
- Mae Manon yn cystadlu mewn cystadleuaeth dawnsio disgo am ddeg yn y bore! Wyt ti ar gael? (Manon is competing in a dance competition at ten in the morning! Are you available?)


Exclamation
Using an exclamation mark ‘!’ is a way of emphasising a fact, a significant event or something funny. For example:
- Dyna beth oedd hwyl! Byth eto cofia! (That was fun! Never again, mind!)
- Wel! Wel! Siomedig iawn! Roeddwn i wedi disgwyl i ti gysylltu â fi oes oesoedd yn ôl! (Well! Well! Very disappointing! I'd expected you to contact me ages ago!)
- Syrthiodd Elin druan allan o'r gwely ar ein gwyliau! Mae hi'n hollol iawn - ond mi achosodd embaras iddi! (Poor Elin fell out of bed on our holiday! She’s completely fine - but it was very embarrassing for her!)


Brackets
You can add comments in brackets. For example:
- Rwy wedi anghofio fy ngwisg nofio eto (ces i stŵr cofia!) (I've forgotten my swimming costume again (I got told off, mind you!))
- Dw i wedi colli £5 (paid â dweud wrth Mam - plîs!) (I've lost £5 (don't tell Mam - please!))
- Mae Martha wedi torri’r ffôn newydd (beth ar wyneb daear o'dd hi'n meddwl o'dd hi'n 'neud, dw i ddim yn g'wbod!) (Martha has broken the new phone (what on earth she thought she was doing, I dunno!))


Activity 1
Read this personal letter. It's been written in informal language. Informal language is like the spoken language we use to talk to friends and family.
Which words do you think belong to the informal language in this personal letter? Make a list of the informal words.

Haia Beds,
Sdim lot o amser ’da fi i sgwennu hwn achos dw i ar y ffordd allan i fynd i’r practis pêl-droed. Dw i jest moyn holi - fyddet ti ffansi dod lan i aros gyda fi rhywbryd dros y gwylie? Ma’ Mam yn dweud galli di ddod ’ma unrhyw bryd ti moyn a bydde hi’n grêt dy weld di.
Gallen ni fynd am wac lan y mynydd tu ôl i’r tŷ, chware pêl-droed yn yr ardd neu fynd mas i bysgota ar y môr gyda Dad. Neu jest 'chillio' adre fan hyn, wrth gwrs. Hei, wyt ti’n ffan o ffilmie Star Wars? Dw i’n dwlu arnyn nhw! Ma’r 'box set' 'da fi fan hyn felly gallen ni wotsho rheiny trwy’r dydd!
Ta beth, rho wbod be’ ti’n feddwl. Cym on, dere i aros! Dw i wir ddim moyn treulio’r holl wylie gyda jest Catrin fy chwâr fach i. Bydde hynny’n ofnadw o ddiflas!
Reit, bant â fi. Wela’ i di cyn bo’ hir, gobeithio. Plîs, plîs, plîs!
Hwyl am nawr ’te,


Activity 2
Why not write a personal letter to a friend you haven't seen for a number of weeks?Let them know how you are and what you’ve been doing over the last month.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
