Chwe phwnc fydd yn newydd i ti yn yr ysgol uwchradd

Part ofStudy support

Un o’r pethau gorau am ddechrau yn yr ysgol uwchradd yw y byddi di’n gallu astudio llwyth o bynciau newydd cyffrous. Mae’n debyg y byddi di mewn ystafell wahanol ar gyfer pob pwnc, ac yn aml bydd ganddyn nhw enwau gwahanol i’r pethau ddysgaist ti yn yr ysgol gynradd.

Ond paid â phoeni – does neb yn disgwyl i ti wybod popeth. Rydyn ni wedi paratoi canllawiau i ti ar rai o’r pynciau y byddi di efallai heb ddod ar eu traws nhw o’r blaen.

Gwyddoniaeth wedi’i rhannu’n dri phwnc

Yn yr ysgol uwchradd, mae Gwyddoniaeth wedi’i rhannu’n dri phwnc i ti eu darganfod – Bioleg, Cemeg a Ffiseg. Mi gei di wneud llawer mwy o arbrofion nag yn yr ysgol gynradd, a defnyddio pethau newydd fel llosgwyr Bunsen, foltmedrau a dysglau petri. Bydd rhaid cofio gwisgo dy gôt labordy a gogls!

Image caption,
Paid â mentro hyn gartref!
Image caption,
Pa ieithoedd wnei di roi cynnig arnyn nhw?

Ieithoedd Tramor Modern

Efallai dy fod ti wedi cael ambell wers iaith o’r blaen, ond fe gei di gyfle i wella dy sgiliau go iawn wrth wneud ieithoedd tramor modern (ITM) yn yr ysgol uwchradd. Dydy pob ysgol ddim yn dewis yr un ieithoedd ac mi allai fod yn wahanol i beth y buost ti’n ei astudio yn yr ysgol gynradd, o Ffrangeg i Sbaeneg a hyd yn oed Mandarin. Cer i’n tudalen ITM i weld be ’di be.

Image caption,
Pa ieithoedd wnei di roi cynnig arnyn nhw?

Hanes

Gan edrych yn ôl o’r presennol yr holl ffordd i Brydain Ganoloesol, bydd Hanes yn yr ysgol uwchradd yn dangos i ti sut mae digwyddiadau’r gorffennol wedi siapio’r byd rydyn ni’n byw ynddo nawr. Gallet ti ddysgu am bethau fel rhyfeloedd byd a’r chwyldro diwydiannol. Efallai y bydd hyd yn oed mwy o dripiau ysgol i safleoedd hanesyddol neu amgueddfeydd lleol nag a gest ti yn yr ysgol gynradd!

Image caption,
Yn dod yn fuan i dy stafell ddosbarth di... (Hanes, hynny yw, nid y Llychlynwyr!)
Image caption,
Mae llunio cod cyfrifiadurol yn help i greu gwefannau a gemau.

Cyfrifiadureg

Mae Cyfrifiadureg yn debyg i TGCh yn yr ysgol gynradd, ond yn fwy manwl. Byddi di’n dysgu sgiliau i fedru rhaglennu systemau newydd a deall sut mae cyfrifiaduron yn gweithio: sgiliau y gelli di’u defnyddio i wneud gemau a gwefannau. Pa mor cŵl ydy hynny? Rwyt ti’n siŵr o ganfod help ar gyfer dy waith cartref neu brofion gyda’n canllawiau CA3 Cyfrifiadureg.

Image caption,
Mae llunio cod cyfrifiadurol yn help i greu gwefannau a gemau.

Daearyddiaeth

Awydd crwydro’r byd? Daearyddiaeth yw’r pwnc sy’n astudio lleoedd, pobloedd a diwylliannau gwahanol, felly byddi di’n mynd ar daith o amgylch y byd yn dy ystafell ddosbarth. Bydd rhai ysgolion uwchradd yn edrych ar y ddaear mewn mwy o fanylder, gyda Daeareg, math o Ddaearyddiaeth sy’n astudio sut y mae creigiau a’r tir yn newid dros amser.

Image caption,
Mae Daearyddiaeth yn bwnc gwych ar gyfer darganfod mwy am y byd.
Image caption,
Mi fyddi di’n darllen llwyth o storïau newydd yn yr ysgol uwchradd.

Cymraeg - Iaith a Llenyddiaeth

Fel mae Gwyddoniaeth yn cael ei rhannu’n Fioleg, Cemeg a Ffiseg, yn yr ysgol uwchradd bydd Llythrennedd yn troi’n Cymraeg (Iaith) a Chymraeg (Llenyddiaeth). Mae’n debyg y byddi di’n astudio’r ddau bwnc (Iaith a Llên) mewn un dosbarth Cymraeg ar ddechrau’r ysgol uwchradd, ond er gwybodaeth i ti, mae Iaith yn helpu gyda llefaru ac ysgrifennu creadigol ac mae Llenyddiaeth yn delio gyda deall llyfrau, barddoniaeth a dramâu. Rydyn ni wedi llunio canllawiau newydd grêt ar CA3 Cymraeg os wyt ti am achub y blaen!

Image caption,
Mi fyddi di’n darllen llwyth o storïau newydd yn yr ysgol uwchradd.

Dyna ni felly – mae’r ysgol uwchradd yn llawn cyfleon newydd a chyffrous i ddysgu am y byd o dy gwmpas. Cofia gael golwg ar ein adnoddau CA3 i gael help gyda dy waith cartref a pharatoi ar gyfer profion yn y dosbarth. Pob hwyl!

Ffrindiau

DECHRAU YSGOL UWCHRADD

Ffrindiau

Gwaith ysgol

DECHRAU YSGOL UWCHRADD

Gwaith ysgol

Dechrau Ysgol Uwchradd – Tudalen hafan

Adnoddau i helpu gyda'r symud i'r ysgol uwchradd.

Dechrau Ysgol Uwchradd – Tudalen hafan