
Ffocws dysgu
Dysga sut i ddefnyddio cysyllteiriau i ddangos cysylltiadau o fewn brawddegau.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- tri gweithgaredd
Learning focus
Learn how to use connectives to show links within sentences.
This lesson includes:
- one video
- three activities
For an English version of this lesson, scroll below.

Fideo
Mae Bethan a Charlie yn disgrifio o ble maen nhw’n dod a pham maen nhw’n hoffi byw yno. Maen nhw’n gwneud hyn drwy dynnu lluniau o’u hoff leoedd.
Ble wyt ti’n byw?
CHARLIE Helo Bethan!
BETHAN Helo!
CHARLIE Croeso. Dere i mewn.
BETHAN Diolch. Dyma dŷ braf.
CHARLIE Diolch. Ble wyt ti’n byw Bethan?
BETHAN Dw i’n byw ym Mostyn.
Pentref yn y gogledd.
CHARLIE Wyt ti’n hoffi byw mewn pentref?
BETHAN Dw i wrth fy modd. Wyt ti’n hoffi byw mewn dinas?
CHARLIE Ydw. Dw i’n caru Caerdydd!
BETHAN Pam?
CHARLIE Achos mae pwll nofio mawr ger fy nhŷ i.
BETHAN O, pwll hwyaid sy ger ein byngalo ni.
CHARLIE Mae llawer o siopau yng Nghaerdydd.
BETHAN Dim ond ychydig o siopau sy ym Mostyn.
CHARLIE Oes sinema yno?
BETHAN Nac oes.
CHARLIE Mae sinema enfawr yng Nghaerdydd.
BETHAN Wyt ti’n hoffi’r sinema?
CHARLIE Dw i’n dwlu arno fe! A dw i’n dwlu ar y tŷ bwyta sy’ gerllaw hefyd!
Oes tŷ bwyta ym Mostyn?
BETHAN Nac oes. Dim ond siop sglodion.
CHARLIE Wyt ti’n hoffi byw mewn pentref bach?
BETHAN Ydw.
CHARLIE Wir? Pam?
BETHAN Achos mae fferm anifeiliaid anhygoel ger Mostyn!
CHARLIE Waw!
BETHAN Y fferm anifeiliaid orau yn y byd!
MAM CHARLIE Beth ydych chi’n wneud?
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio’r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
- siarad am ble maen nhw’n byw
- mynegi barn gan ddefnyddio cysyllteiriau
- gofyn cwestiynau syml a'u hateb yn gywir
- dangos dealltwriaeth o gynnwys y fideo

Gweithgaredd 1
Ble wyt ti’n byw? Wyt ti’n hoffi byw yno?
Tynna lun o dy dŷ di ac ysgrifenna'r rhesymau pam wyt ti’n hoffi byw yn dy ardal di, gan ddefnyddio'r gair 'achos' neu 'oherwydd', er enghraifft:
- Dw i’n byw mewn byngalo yn Abercynon. Dw i’n hoffi byw yn Abercynon, achos mae pwll nofio yma. Dw i'n hoffi nofio, oherwydd dw i'n mwynhau cadw'n heini.
- Dw i'n byw mewn tŷ teras yn Wrecsam. Dw i’n hoffi byw yn Wrecsam, oherwydd mae sinema da yma. Dw i wrth fy modd yn mynd i'r sinema, achos dw i'n hoffi ffilmiau comedi.
Efallai, rwyt ti’n hoffi byw yno oherwydd ei fod yn lle tawel, neu’n braf, yn agos at y siopau neu'r parc, neu achos dy fod yn byw rownd y gornel i deulu a ffrindiau. Pob lwc!

Gweithgaredd 2
Cer i nôl pedwar darn o bapur.
Ysgrifenna un o’r geiriau canlynol ar bob darn o bapur:
- Ydw
- Nac ydw
- Oes
- Nac oes
Nawr, dylai bod pedwar darn gyda ti, gyda gair gwahanol ar bob un.
Gwylia’r fideo eto. Pan rwyt ti'n clywed y cwestiynau sy’n dechrau gyda’r geiriau 'Wyt ti…?', dewisa’r darn o bapur sy'n dweud 'Ydw' neu 'Nac ydw' i ateb y cwestiwn.
Pan rwyt ti'n clywed y cwestiynau sy’n dechrau gyda’r geiriau 'Oes…?', dewisa’r darn o bapur sy'n dweud 'Oes' neu 'Nac oes' i ateb y cwestiwn.
Er enghraifft, pan wyt ti'n clywed Charlie yn gofyn y cwestiwn, 'Wyt ti’n hoffi byw mewn pentref?', dewisa’r darn o bapur sy’n dweud ‘Ydw’.

Gweithgaredd 3
Ysgrifenna ddarn am dy ardal di.
Dyma gynllun i ti ddilyn, ond gofynna am help gan oedolyn os oes angen.
Fy ardal i
………ydw i.
Dw i’n byw yn………
Dw i’n hoffi byw yn………, achos………
neu
Dw i ddim yn hoffi byw yn………, achos………
Mae llawer o ……… yn ………
neu
Does dim llawer o ……… yn ………
Fy hoff siop yn fy ardal i yw siop………, oherwydd ………
Dw i wrth fy modd gyda ……… yn y fy ardal i, achos ………

Video
Bethan and Charlie describe where they are from and why they like living there. They do this by drawing their favourite places.
Ble wyt ti’n byw?
CHARLIE Helo Bethan!
BETHAN Helo!
CHARLIE Croeso. Dere i mewn.
BETHAN Diolch. Dyma dŷ braf.
CHARLIE Diolch. Ble wyt ti’n byw Bethan?
BETHAN Dw i’n byw ym Mostyn.
Pentref yn y gogledd.
CHARLIE Wyt ti’n hoffi byw mewn pentref?
BETHAN Dw i wrth fy modd. Wyt ti’n hoffi byw mewn dinas?
CHARLIE Ydw. Dw i’n caru Caerdydd!
BETHAN Pam?
CHARLIE Achos mae pwll nofio mawr ger fy nhŷ i.
BETHAN O, pwll hwyaid sy ger ein byngalo ni.
CHARLIE Mae llawer o siopau yng Nghaerdydd.
BETHAN Dim ond ychydig o siopau sy ym Mostyn.
CHARLIE Oes sinema yno?
BETHAN Nac oes.
CHARLIE Mae sinema enfawr yng Nghaerdydd.
BETHAN Wyt ti’n hoffi’r sinema?
CHARLIE Dw i’n dwlu arno fe! A dw i’n dwlu ar y tŷ bwyta sy’ gerllaw hefyd!
Oes tŷ bwyta ym Mostyn?
BETHAN Nac oes. Dim ond siop sglodion.
CHARLIE Wyt ti’n hoffi byw mewn pentref bach?
BETHAN Ydw.
CHARLIE Wir? Pam?
BETHAN Achos mae fferm anifeiliaid anhygoel ger Mostyn!
CHARLIE Waw!
BETHAN Y fferm anifeiliaid orau yn y byd!
MAM CHARLIE Beth ydych chi’n wneud?
Notes for parents
After watching the video, students will be able to:
- talk about where they live
- express an opinion using connectives
- ask simple questions and answer them correctly
- show understanding of video content

Activity 1
Where do you live? Do you like living there?
Draw a picture of your house and write down why you like living there, using the connectives 'achos' or 'oherwydd' which both mean 'because', for example:
- Dw i’n byw mewn byngalo yn Abercynon. Dw i’n hoffi byw yn Abercynon, achos mae pwll nofio yma. Dw i'n hoffi nofio, oherwydd dw i'n mwynhau cadw'n heini.
(I live in a bungalow in Abercynon. I like living in Abercynon, because there's a swimming pool here. I like swimming, because I like keeping fit.)
- Dw i'n byw mewn tŷ teras yn Wrecsam. Dw i’n hoffi byw yn Wrecsam, oherwydd mae sinema da yma. Dw i wrth fy modd yn mynd i'r sinema, achos dw i'n hoffi ffilmiau comedi.
(I live in a terraced house in Wrexham. I like living in Wrexham, because there's a good cinema here. I love going to the cinema, because I like comedy films.)
Perhaps you like living there because it’s quiet, or pleasant, close to the shops or the park, or because you live round the corner to family and friends. Good luck!

Activity 2
Go and fetch four pieces of paper.
Write one of the following words on each piece of paper:
- Ydw
- Nac ydw
- Oes
- Nac oes
They all mean 'yes' or 'no'.
Now you should have four pieces of paper with a different word on each.
Watch the video again. When you hear a question starting with the words, 'Wyt ti…?', choose the piece of paper that says 'Ydw' or 'Nac ydw' to answer the question.
When you hear a question starting with the words, 'Oes…?', choose the piece of paper that says 'Oes' or 'Nac oes' to answer the question.
For example, when you hear Charlie asking, 'Wyt ti’n hoffi byw mewn pentref?' (Do you like living in a village?), then choose the piece of paper which says, 'Ydw' (yes).

Activity 3
Write a piece about your area.
Here's a plan for you to follow, but ask an adult for help if necessary.
Fy ardal i
………ydw i.
Dw i’n byw yn………
Dw i’n hoffi byw yn………, achos………
__or __
Dw i ddim yn hoffi byw yn………, achos………
Mae llawer o ……… yn ………
__or __
Does dim llawer o ……… yn ………
Fy hoff siop yn fy ardal i yw siop………, oherwydd ………
Dw i wrth fy modd gyda ……… yn y fy ardal i, achos ………
Here's a translation of the plan:
My area
I'm ……….
I live in………
I like living in………, because………
or
I don't like living in………, because………
There are lots of……… in ………
or
There are not many……… in ………
My favourite shop in my area is the……… shop, because ………
I love……… in my area, because………

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
