
Ffocws dysgu
Dysga sut i adnabod cyfaint mewn cyd-destunau ymarferol.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- dau weithgaredd
Learning focus
Learn how to recognise volume in practical contexts.
This lesson includes:
- one video
- two activities

Wedi ei chreu mewn partneriaeth â Twinkl.

Fideo / Video
Mae Peniog yn cwrdd â ffrind newydd o'r enw Ciwbig, sy'n tyfu ac yn tyfu.
Brainy meets a new friend called Cubic, who keeps growing and growing.
ADRODDWR Peniog dyma Ciwbig!
CIWB Ciiiiwb!
PENIOG Peniog!
ADRODDWR Mae gan Ciwbig ochrau un centimedr o hyd, sy'n golygu bod ganddi gyfaint o un centimedr ciwbig.
CIWB Ciiiiwb!
ADRODDWR Edrych, dyma ei ffrindiau!
CIWB Ciiiwb!
ADRODDWR Pan mae Ciwbig a'i ffrindiau yn ymuno mae ganddyn nhw gyfaint newydd sbon.
PENIOG Peniog?
ADRODDWR Mae gan Ciwbig nawr dri chiwb un centimedr o uchder, lled a dyfnder. A gallwn luosi mesuriadau Ciwbig o ran uchder, lled a dyfnder i ddarganfod y cyfaint newydd - 27 centimedr ciwb! Gallwn ddefnyddio'r un broses i ddarganfod cyfaint Ciwbig, pa bynnag mor fawr ma hi'n tyfu.
CIWB Dinistr!
ADRODDWR O! On'd yw gwneud ffrindiau yn beth braf?
Nodiadau i rieni
- Mae gan giwb ochrau 1 cm o hyd, sy’n golygu bod cyfaint y ciwb yn 1 cm x 1 cm x 1 cm = 1 cm ciwbig.
- Felly, os mae ciwb yn mesur 3 cm o uchder, 3 cm o led a 3 cm o ddyfnder, yna cyfaint y ciwb yw 27 cm ciwbig (3 x 3 x 3 = 27).
- Gallwn ddefnyddio’r un dull i ddarganfod cyfaint ciwb beth bynnag yw ei faint.
Notes for parents
- *The cube has 1 cm sides, which means the volume of the cube is 1 cm x 1 cm x 1 cm = 1 cm cubed. *
- *So, if a cube measures 3 cm in height, 3 cm in length and 3 cm in depth then the cube is 27 cm cubed (3 x 3 x 3 = 27cm). *
- We can use the same method to calculate the volume of any cube, whatever its size.


Cyfaint / Volume
Cyfaint yw faint o le mae siâp 3D yn ei lenwi.
Mae bloc cm ciwbig yn llenwi 1 cm ciwbig. Rydyn ni’n ysgrifennu hynny fel hyn: 1 cm³.
Gelli di weithio allan beth yw cyfaint siâp drwy luosi uchder × lled × dyfnder.
Os yw’r siâp wedi’i wneud o flociau cm ciwbig, gelli di gyfri’r ciwbiau i ganfod cyfaint y siâp.

Volume is the amount of space a 3D shape takes up.
A cubic cm block takes up 1 cubic cm. This is written as 1 cm³.
*You can work out the volume of a shape by multiplying height × width × depth. *
If the shape is made of cubic cm blocks, you can count the cubes to find the shape's volume.

Gweithgaredd 1 / Activity 1
Labela gyfaint pob ciwboid.
Label the volume of each cuboid.

Gweithgaredd 2 / Activity 2
Lawrlwytha'r daflen waith isod o wefan Twinkl am fwy o waith cyfaint.
Download the worksheet from the Twinkl website for more work on volume.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

