
Ffocws dysgu
Dysga sut i wrando’n ofalus a gwneud cysylltiadau rhwng beth rwyt ti'n ei ddysgu a beth rwyt ti'n ei wybod yn barod.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- tri gweithgaredd
Learning focus
Learn how to listen carefully and make connections between what you are learning and what you already know.
This lesson includes:
- one video
- three activities

For an English version of this lesson, scroll below.
Fideo
Mae Rhys ac Anna yn mynd am dro yn y goedwig i gadw’n heini a darganfod anifeiliaid.
Cadw’n heini a darganfod anifeiliaid
RHYS Hei Anna, beth am fynd am dro yn y goedwig?
ANNA Na. Dw i ddim eisiau.
RHYS Tyrd! Mae cerdded yn dda i gadw’n heini.
ANNA Dw i ddim eisiau cadw’n heini.
RHYS Mae cadw’n heini’n dda i ti! Tyrd!
Hei, beth am neidio fel broga?
ANNA Iawn.
RHYS Dyna ffordd dda o gadw’n heini!
ANNA Mae’n hwyl!
RHYS Edrycha! Aderyn!
Beth am hedfan fel aderyn?
ANNA Iawn.
RHYS Dyna ffordd wych o gadw’n heini!
Mae’n rhaid i ti hedfan yn uwch!
O diâr!
Edrycha! Gafr! Beth am redeg fel gafr?
ANNA Iawn. Syniad da.
RHYS Dyna ffordd dda o gadw’n heini.
ANNA Dw i’n mwynhau cadw’n heini nawr!
RHYS Rheda’n gyflymach!
Gofalus! Pwll dŵr!
Edrycha! Mochyn! Beth am rowlio fel mochyn?
ANNA Iawn. Dyna ffordd wych o gadw’n heini!
RHYS Rowlia yn ôl ac ymlaen! Rowlia yn ôl ac ymlaen!
Gofalus! Mwd!
Wps!
Tyrd yn ôl i’r gwersyll.
ANNA Beth sy wedi digwydd i fi? Dw i’n edrych yn ofnadwy!
RHYS Ti wedi dychryn Gel druan!
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
- gwybod mwy am sut mae anifeiliaid yn symud
- ymarfer trafod anifeiliaid a mynegi barn
- dechrau meddwl am gymariaethau sy'n disgrifio anifeiliaid

Gweithgaredd 1
Mae cadw'n heini yn dda i ti. Felly, dy dro di yw hi nawr!
Beth am gopïo symudiadau'r anifeiliaid yn y fideo, fel wnaeth Anna?
Wrth i ti wneud pob symudiad, egluro beth rwyt ti'n ei wneud, er enghraifft:
"Dw i'n rowlio yn ôl ac ymlaen fel mochyn."
Ond paid â gwneud llanast fel gwnaeth Anna yn y fideo!

Gweithgaredd 2
Beth yw dy hoff anifail di? Wyt ti'n hoffi rhai o'r anifeiliaid yn y fideo?
- Tynna lun o dy hoff anifail a'i liwio gyda phensiliau.
- Ysgrifenna frawddeg nesaf at y llun yn nodi beth yw dy hoff anifail.
- Beth am ysgrifennu ffaith neu ddwy am yr anifail hefyd?
- Dangosa'r llun i weddill y teulu a darllen allan yr hyn rwyt ti wedi ei ysgrifennu am dy hoff anifail.
Enghraifft

aderyn
Fy hoff anifail yw aderyn.
Mae adar yn hedfan yn yr awyr.
Mae adar yn mwynhau canu.
Mae adar yn nythu yn y coed.
Nawr, gwna'r un peth am yr holl anifeiliaid yn y fideo.

Gweithgaredd 3
Lawrlwytha'r gêm ddyfalu 'Beth ydw i? Anifeiliaid y fferm'.
Os wyt ti'n argraffu'r cardiau -Argraffa a thorri'r cardiau allan yn ofalus. Darllena'r disgrifiadau i dy bartner, gan guddio'r llun oddi wrthyn nhw. Rhaid iddyn nhw ddyfalu beth yw'r anifail, gan wrando ar y disgrifiadau.
Os wyt ti'n defnyddio'r cardiau ar y sgrîn -Darllena'r disgrifiadau ar y sgrin i dy bartner. Cuddia'r llun oddi wrthyn nhw. Rhaid i dy bartner ddyfalu beth yw'r anifail gan wrando ar y disgrifiadau.

Video
Rhys and Anna take a walk in the woods to keep fit and find animals.
Cadw’n heini a darganfod anifeiliaid
RHYS Hei Anna, beth am fynd am dro yn y goedwig?
ANNA Na. Dw i ddim eisiau.
RHYS Tyrd! Mae cerdded yn dda i gadw’n heini.
ANNA Dw i ddim eisiau cadw’n heini.
RHYS Mae cadw’n heini’n dda i ti! Tyrd!
Hei, beth am neidio fel broga?
ANNA Iawn.
RHYS Dyna ffordd dda o gadw’n heini!
ANNA Mae’n hwyl!
RHYS Edrycha! Aderyn!
Beth am hedfan fel aderyn?
ANNA Iawn.
RHYS Dyna ffordd wych o gadw’n heini!
Mae’n rhaid i ti hedfan yn uwch!
O diâr!
Edrycha! Gafr! Beth am redeg fel gafr?
ANNA Iawn. Syniad da.
RHYS Dyna ffordd dda o gadw’n heini.
ANNA Dw i’n mwynhau cadw’n heini nawr!
RHYS Rheda’n gyflymach!
Gofalus! Pwll dŵr!
Edrycha! Mochyn! Beth am rowlio fel mochyn?
ANNA Iawn. Dyna ffordd wych o gadw’n heini!
RHYS Rowlia yn ôl ac ymlaen! Rowlia yn ôl ac ymlaen!
Gofalus! Mwd!
Wps!
Tyrd yn ôl i’r gwersyll.
ANNA Beth sy wedi digwydd i fi? Dw i’n edrych yn ofnadwy!
RHYS Ti wedi dychryn Gel druan!
Notes for parents
After watching the video, pupils will be able to:
- understand more about how animals move
- practise discussing animals and express an opinion
- start to think about comparisons that describe animals

Activity 1
Keeping fit is good for you. So, it's your turn now!
How about copying the movements of the animals in the video, just like Anna did?
As you perform each movement, explain what you're doing, for example:
"Dw i'n rowlio yn ôl ac ymlaen fel mochyn." (I'm rolling back and forth like a pig.)
But don't make a mess like Anna did in the video!

Activity 2
What is your favourite animal? Do you like any of the animals in the video?
- Draw a picture of your favourite animal and colour with pencils.
- Write a sentence next to the picture noting what your favourite animal is.
- How about writing a fact or two about the animal too?
- Show the picture you've drawn to the rest of the family and read out what you've written about your favourite animal.
Example

aderyn
(bird)
Fy hoff anifail yw aderyn.
(My favourite animal is a bird.)
Mae adar yn hedfan yn yr awyr.(Birds fly in the sky.)
Mae adar yn mwynhau canu.(Birds enjoy singing.)
Mae adar yn nythu yn y coed.(Birds nest in the trees.)
Now, do the same thing for each of the animals in the video.

Activity 3
Download the guessing game 'Beth ydw i? Anifeiliaid y fferm' ('What am I? Farm animals').
If you print the cards -Print and cut out the cards carefully. Read the descriptions to your partner, hiding the picture from them. They must guess the animal from the descriptions given.
If you use the cards on the screen -Read the descriptions on the screen to your partner, hiding the picture from them. They must guess the animal by listening to the descriptions given.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

